Croeso i ASH Cymru

Cyffur caethiwus iawn yw tybaco ac mae ei ddefnyddio’n gyfrifol am farwolaethau 5650 o bobl bob blwyddyn yng Nghymru. Yn ddiau defnyddio tybaco yw’r prif bryder ym maes iechyd y cyhoedd yng Nghymru.

Sefydlwyd ASH Cymru yn 1976 ac ef yw’r prif sefydliad gwirfoddol yng Nghymru sy’n mynd i’r afael â defnyddio tybaco. Ein prif nod yw sicrhau lleihad yn y problemau iechyd a gysylltir â defnyddio tybaco, a diddymu'r problemau hynny'n llwyr yn y pen draw.

Cyhoeddi'r Gynhadledd

Mae ASH Cymru yn falch i gyhoeddi ein cynhadledd flynyddol: Dulliau Arloesol i Reoli Tybaco, Cynhadledd Rhyngwladol.

Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal eleni yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar 10fed 11eg Hydref 2012.

  1. Edrychwch ar y rhaglen a cael gwybod sut i gyflwyno cynodeb

Busnesau ar gyfer Cymru Ddi-fwg

Mae'r menter 2012 yma yn tyfu yn gyflym, gyda nifer o fusnesau blaenllaw allweddol o wahanol sectorau eisoes wedi cofrestru. Os oes gennych diddordeb mewn ymuno gyda busnesau o gyffelyb fryd ffoniwch John neu Martha ar 029 2064 1101.

Cliciwch ar y logo uchod i fynd i'r dudalen busnes.

 

Astudiaeth Rhyngrwyd ar Roi'r Gorau i Ysmygu

Mae coleg Prifysgol Llundain wrthi'n profi wefannau sy'n darparu cymorth ar gyfer pobl sydd am roi'r gorau i ysmygu. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru.