Diwrnod Cicio'r Sigarets Allan

Camu allan, Codi Llais a Chymryd Rheolaeth yn erbyn Tybaco Mawr.

Mae Diwrnod Cicio’r Sigaréts Allan yn ddiwrnod cenedlaethol o weithredu sy’n grymuso pobl ifanc i Gamu allan, Codi Llais a Chymryd Rheolaeth yn erbyn Tybaco Mawr.
 

Mae Diwrnod Cicio’r Sigaréts Allan 2013 ar 3rd Ebrill ac rydym yn awr yn derbyn cyflwyniadau a chofrestriadau prosiectau. Ar Ddiwrnod Cicio’r Sigaréts Allan mae pobl ifanc o ysgolion, grwpiau ieuenctid a grwpiau cymunedol ar draws y wlad yn cynnal gwahanol ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n tynnu sylw at y problemau a achosir gan Dybaco Mawr a’i angen i recriwtio pobl ifanc yn lle oedolion sy’n rhoi’r gorau i ysmygu neu’n marw oherwydd eu harfer.

Mae’n bwysig cofrestru’ch digwyddiad er mwyn dangos i’r cyhoedd a’r gymuned rheoli tybaco pam y mae’n hanfodol grymuso pobl ifanc ac mae’n anfon neges gref am ymrwymiad pobl ifanc i fynd i’r afael â defnyddio tybaco. Gallwch gofrestru’ch hun / eich grŵp trwy ddefnyddio’r ffurflen cyflwyno prosiect a’i hanfon at kbd@ashwales.org.uk neu trwy'r post i Tîm KBD, ASH Cymru, 2il lawr, 8 Stryd yr Amgueddfa, Caerdydd CF10 3BG.

Nodyn i oedolion sy’n gweithio gyda phobl ifanc:

Fel athro/athrawes, arweinydd ieuenctid neu ddadleuwr iechyd, gallwch helpu i drefnu’r digwyddiadau hyn ac ysgogi pobl ifanc i godi ymwybyddiaeth o broblemau defnyddio tybaco yn eich ysgol a’ch cymuned.
 

Cliciwch yma i lawrlwytho llyfryn ymgyrchu Diwrnod Cicio’r Sigaréts Allan
 

Neu gallwch chi lawrlwytho rhannau unigol o'r canllaw:

Cofiwch anfon clipiau newyddion am eich gweithgareddau aton ni – bydden ni wrth ein bodd i weld beth rydych chi’n ei wneud.
 


Cofiwch ddweud wrthyn ni sut mae’n mynd. Anfonwch gopïau o unrhyw sylw a gewch chi yn y wasg i’r cyfeiriad hwn:


Diwrnod Cicio’r Sigaréts Allan
d/o ASH Cymru
8 Stryd yr Amgueddfa
Caerdydd CF10 3BG


Os ydych chi’n meddwl bod eich ymgyrch ar Ddiwrnod Cicio’r Sigaréts Allan yn anhygoel a bod y gwaith rydych chi’n ei wneud drwy gydol y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth o ddefnyddio tybaco a’r niwed mae’n ei achosi’n eithaf da hefyd, enwebwch eich tîm am un o’r Gwobrau Rhagoriaeth mewn Rheoli Tybaco yng Nghymru.

 


Nodyn ynglŷn â defnyddio logos:

Mae’r ymadrodd Kick Butts Day, a’r amrywiadau sy’n deillio ohono, wedi’u trwyddedu i ASH Cymru o dan gytundeb gan y Campaign for Tobacco Free Kids yn Unol Daleithiau America. Ni chaniateir defnyddio logo KBD yr Unol Daleithiau ar gyfer digwyddiadau yng Nghymru.

Caniateir defnyddio logo Diwrnod Cicio’r Sigaréts Allan Cymru, sydd â nod masnach arno, yn ddilyffethair mewn digwyddiadau Diwrnod Cicio’r Sigaréts Allan ar draws y Deyrnas Unedig yn ddarostyngedig i’r gofynion canlynol:
 

  • Rhaid peidio â defnyddio’r logo i awgrymu bod ASH Cymru wedi noddi neu gefnogi’n swyddogol unrhyw weithredoedd neu ddatganiadau a wnewch sy’n gysylltiedig â Diwrnod Cicio’r Sigaréts Allan.
  • Rhaid peidio â newid y logo mewn unrhyw ffordd ac ni ellir defnyddio’r logo na’r ymadrodd “Diwrnod Cicio’r Sigaréts Allan” at unrhyw ddiben ond eich gweithgareddau ar gyfer Diwrnod Cicio’r Sigaréts Allan heb ganiatâd pendant ymlaen llaw oddi wrth ASH Cymru.